Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (149)v5 |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. |
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
Cynnig i ethol Aelod i Bwyllgor
NDM5308 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Menter a Busnes yn lle Dafydd Elis-Thomas (Plaid Cymru).
|
3 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynlluniau Newid Gwasanaethau Hywel Dda (45 munud) |
4 Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Datblygu'r Sector Bwyd yng Nghymru (30 munud) |
5 Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: Arfer Gorau mewn Gwasanaethau Cyhoeddus: Adroddiad ar Ymweliadau’r Haf ag Awdurdodau Lleol (30 munud) |
6 Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona mewn perthynas ag adennill meddiant o dai annedd (15 munud) NDM5248 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i). Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Gorffennaf 2013. I weld copi o’r Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona ewch i: http://services.parliament.uk/bills/2013-14/antisocialbehaviourcrimeandpolicingbill/documents.html Dogfennau Ategol Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol |
7 Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona mewn perthynas â gwaharddebau i atal niwsans ac atal tarfu ar bersonau, gorchmynion ymddygiad troseddol a’r trothwy cymunedol (15 munud) NDM5253 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona sy’n ymwneud â gwaharddebau i atal niwsans ac atal tarfu ar bersonau, gorchmynion ymddygiad troseddol a’r trothwy cymunedol, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mai 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i). I weld copi o’r Bil ewch i: Dogfennau Ategol |
8 Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona mewn perthynas â’r Fframwaith ar gyfer rheolaethau ar gyllid cyfalaf a geir yn Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i Brif Gwnstabliaid yng Nghymru (15 munud) NDM5254 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona sy’n cymhwyso’r fframwaith rheolaethau cyllid cyfalaf yn Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i Brif Gwnstabliaid yng Nghymru i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mai 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i). I weld copi o’r Bil ewch i: Dogfennau Ategol |
9 Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona mewn perthynas â chyflwyno Hysbysiadau Amddiffyn Cymunedol, Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus, Hysbysiadau Cau a diwygiadau i Ddeddf Cŵn Peryglus 1991 (15 munud) NDM5249 Alun Davies (Blaenau Gwent) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona sy’n ymwneud â chyflwyno Hysbysiadau Gwarchod y Gymuned, Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus, Hysbysiadau Cau, a diwygio Deddf Cwn Peryglus 1991, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i). Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Medi 2013. I weld copi o’r Bil ewch i: Dogfennau Ategol
|
10 Dadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) (60 munud) NDM5300 Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru). Gosodwyd y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 29 Ebril 2013. Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 19 Gorffennaf 2013. Dogfennau
Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol |
11 Penderfyniad Ariannol mewn perthynas â'r Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) (5 munud) NDM5301 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69 sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
|
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 25 Medi 2013